P-05-1101 Caniatáu i gefnogwyr fynychu digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dylan Llewelyn Morgan, ar ôl casglu cyfanswm o 105 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae cefnogwyr pêldroed a rygbi yn Lloegr bellach yn cael mynd i’r caeau chwarae i gefnogi eu clybiau, ond nid yw hyn yn cael ei ganiatáu yng Nghymru. Mae clybiau pêldroed Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam, ynghyd â’r clybiau rygbi yma yng Nghymru, yn ysu am gael gweld cefnogwyr yn dychwelyd. Mae’r clybiau’n wynebu trafferthion ariannol ac mae’r cefnogwyr yn ei chael hi’n anodd hefyd, gan gynnwys fi sydd ar goll heb gael mynd i wylio gêm bêldroed. A wnewch chi ganiatáu i hyd at 2000 o gefnogwyr ddod i’r caeau chwarae yng Nghymru, fel sy’n digwydd yn Lloegr – mae mawr angen hyn.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Aberafan

·         Gorllewin De Cymru